Lleoliad:
Video Conference via Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 10 Tachwedd 2020
Amser:
09.00 -
09.28
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Siân Gwenllian AS Caroline Jones AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Bethan Garwood |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cafodd Caroline Jones ei chroesawu yn ôl i’r pwyllgor gan y Llywydd.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr Wythnos Hon
Cyfnod 3 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)
Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn cynnig gohirio’r trafodion tan ddydd Mercher, os daw'n amlwg na fydd Cyfnod 3 yn cael ei gwblhau erbyn diwedd dydd Mawrth.
Egwyliau
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai egwyl byr cyn y cyfnod pleidleisio (os oes gwrthwynebiad i'r cynnig o dan Eitem 4) neu ar ôl y grŵp cyntaf yng Nghyfnod 3, ac yn defnyddio ei barn ar unrhyw egwyliau ar ôl hynny. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cael egwyl hwy oddeutu 7pm.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau canlynol:
Dydd Mawrth 17 Tachwedd 2020
·
Datganiad gan Weinidog yr Economi,
Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Cynllun Adferiad Economaidd (45
munud) - Gohiriwyd tan
1 Rhagfyr
· Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth newydd i Gymru (45 munud)
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud):
o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020
o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020
·
Dadl: Ail Adroddiad
Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru (30 munud)
– Gohiriwyd tan 1
Rhagfyr
·
Dadl: Cyfnod 4 y Bil
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (15 munud)
– Gohiriwyd tan 18
Tachwedd
Dydd Mercher 18 Tachwedd 2020 –
· Dadl: Cyfnod 4 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (15 munud)
Dydd Mawrth 24 Tachwedd 2020
· Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymraeg 2050 (2019-2020) ac Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg (2019-2020) (60 munud)
3.3 Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau busnes a ganlyn yn yr amserlen:
Dydd Mercher 2 Rhagfyr 2020 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Effaith argyfwng COVID-19 ar newyddiaduraeth a’r cyfryngau lleol (30 munud)
· Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Datgarboneiddio trafnidiaeth (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
3.4 Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 18 Tachwedd:
NNDM7455
Helen Mary Jones
Joyce Watson
Leanne Wood
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu y dylai Llywodraeth y DU fod wedi cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr lleol cyn rhoi llety i geiswyr lloches yng nghanolfan filwrol Penalun, ger Dinbych-y-pysgod.
2. Yn credu y dylid ailystyried y penderfyniad am ei fod yn lle anaddas i geiswyr lloches, gan ei fod wedi'i ynysu oddi wrth rwydweithiau cymorth priodol.
3. Yn condemnio'r protestiadau treisgar a drefnwyd gan grwpiau'r asgell dde eithafol o'r tu allan i Sir Benfro.
4. Yn canmol trigolion a gwirfoddolwyr lleol o bob rhan o Gymru sydd wedi croesawu a chefnogi'r ceiswyr lloches.
Cefnogwyr:
Mick Antoniw
John Griffiths
Llyr Gruffydd
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 9 Rhagfyr:
NNDM7462
Lynne Neagle
Bethan Sayed
Leanne Wood
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y dystiolaeth yn ddiamwys bod 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn, o feichiogrwydd i ddwy oed, yn gosod y sylfeini ar gyfer bywyd hapus ac iach a bod cysylltiad cryf rhwng cefnogaeth a llesiant babanod yn ystod y cyfnod hwn a gwell canlyniadau yn ddiweddarach mewn bywyd, gan gynnwys cyflawniad addysgol, cynnydd yn y gwaith a gwell iechyd corfforol a meddyliol.
2. Yn nodi, ers yr achosion o COVID-19 a'r cyfyngiadau symud ac ymbellhau cymdeithasol a ddaeth yn sgil hynny, fod corff cynyddol o ymchwil yn dangos bod rhieni'n wynebu pwysau digynsail, pryderon uwch, a'u bod mewn mwy o berygl o ddatblygu problemau iechyd meddwl yn y cyfnod amenedigol.
3. . Yn nodi bod arolwg Babies in Lockdown 2020 wedi dangos bod 66 y cant o ymatebwyr o Gymru wedi nodi bod iechyd meddwl rhieni yn prif bryder yn ystod y cyfyngiadau symud: dim ond 26 y cant oedd yn teimlo'n hyderus y gallent ddod o hyd i gymorth ar gyfer iechyd meddwl pe bai ei angen arnynt a bod 69 y cant o rieni'n teimlo bod y newidiadau a gyflwynwyd gan COVID-19 yn effeithio ar eu baban heb ei eni, babi neu blentyn ifanc.
4. Yn nodi bod ymchwil New Parents and COVID-19 2020 wedi canfod bod dros hanner y 257 o ymatebwyr sydd wedi rhoi genedigaeth ers y cyfyngiadau symud yn teimlo bod eu profiad geni wedi bod yn anos na'r disgwyl oherwydd cyfyngiadau'r coronafeirws, dros 60 y cant heb dderbyn unrhyw fath o archwiliad ôl-enedigol a bron i chwarter am gael cymorth iechyd meddwl amenedigol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau a chymorth i deuluoedd yn ystod beichiogrwydd a'r cyfnod amenedigol yn cael blaenoriaeth a bod y gweithlu bydwreigiaeth, ymwelwyr iechyd ac iechyd meddwl amenedigol yn cael ei ddiogelu rhag adleoli yn ystod y pandemig.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n rhagweithiol gyda byrddau iechyd i sicrhau y gall menywod gael cymorth diogel gan eu partneriaid yn ystod ymweliadau ysbyty yn ystod beichiogrwydd.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu buddsoddiad ychwanegol wedi'i neilltuo ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol a gwasanaethau gwirfoddol i ymdopi â'r cynnydd yn y galw oherwydd COVID-19.
Cefnogwyr:
Dawn Bowden
Jayne Bryant
Alun Davies
Vikki Howells
Huw Irranca-Davies:
Helen Mary Jones
Dai Lloyd
Neil Mcevoy
Jenny Rathbone
David Rees
Jack Sargeant
4 Deddfwriaeth
4.1 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 16 Tachwedd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
4.2 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 16 Tachwedd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
4.3 Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol
Nododd y Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol. Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Gwasanaethau Ariannol at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, a'r Memorandwm Atodol ar y Bil Masnach at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad terfynol ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 18 Rhagfyr ar gyfer y ddau Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.
5 Pwyllgorau
5.1 Amserlen y Senedd
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer tymor y gwanwyn 2021 a'r addasiadau i'r amserlen bresennol.
Unrhyw Fater Arall
Aelodaeth Pwyllgorau
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynigion i ethol David Rowlands i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, y Pwyllgor Safonau Ymddygiad a Phwyllgor y Llywydd. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gyflwyno cynigion i ganiatáu i Caroline Jones fod yn ddirprwy ar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a Mandy Jones i gymryd y sedd ar y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
Gofynnodd Caroline Jones beth oedd y rhesymeg dros beidio â galw grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio i ofyn cwestiynau i lefarwyr neu arweinwyr. Esboniodd y Llywydd mai mater i'r Cadeirydd oedd hyn, ond y byddai Aelodau'r grŵp hwnnw yn cael eu galw i gyfrannu'n gymesur â chynrychiolaeth y grŵp yn y Senedd.